Y Gadair Felen

Cyfweliadau'r Gadair Felen – edrych yn ôl ar ganser. 

Yma byddwn ni'n dangos cyfweliadau a phobl sydd wedi bod drwy driniaeth Canser ac sy'n gwneud yn dda erbyn hyn. 

Cafodd Chloe o Benybont deiagnosis o Hodgkin Lymphoma yn 22 oed. Yn ei chyfweliad ar y gadair felen ma hi'n siarad am y diagnosis, y profiad o gael Chemotherapy a'r ymrafael emosiynol o golli ei gwallt.

Cafodd diagnosis yn 2020 tra bod hi o dan hyfforddiant i fod yn gyfrifydd. Mae Chloe nawr yn well a ma hi ar fwrdd Elusen Syr Gareth Edwards. Ma hi'n fenyw ifanc anhygoel a rydyn ni'n ei hedmygu shwt gymaint.

Cafodd Emilia o Lanedi yn Sir Gaerfyrddin ddeiagnosis o Hodgkin Lymphoma pan oedd hi'n 21oed. Roedd hi'n gweithio fel 'Au Pair' yn Awstralia ar y pryd cyn dod nol i Gymru i gael triniaeth. Mae Emilia yn siarad am y gofal arbennig a gafodd yn yr Uned Canser (Teenage Cancer Unit) yng Nghaerdydd. Mae Emilia yn 26 oed erbyn hyn ac yn Nyrs gymwys. Mae hi'n gweithio ac yn cefnogi bobl eraill sy'n mynd trwy Canser.

Emilia, ni'n prowd iawn ohonot ti. Mae Emilia yn aelod pwysig iawn o Fwrdd Cyfarwyddwyr Elusen Syr Gareth Edwards.

Roedd Huw yn 32 pan gafodd ddeiagnosis o Hodgkin Lymphoma. Ma fe nawr yn 56 oed gyda tri o blant annwyl. Yn ei gyfweliad ar y gadair felen ma Huw yn siarad am y profiad o gael Canser yn ei 30au cynnar ac am yr arwydd cyntaf bod rhywbeth o'i le pan oedd e'n chwysu'n drwm yn y nos. Ma Huw yn briod ers 26 mlynedd erbyn hyn gyda Sian. Roedd Sian yn gefn iddo trwy'r holl brofiad. Diolch am siarad a ni Huw.

Dyma gyfweliad y gadair felen gyda'r hynod hyfryd Ian Gwyn Hughes (Pennaeth Materion Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru). Cafodd Ian ddiagnosis Canser y Ceilliau pan oedd yn 21 oed ac mae'n sôn am y gefnogaeth a gafodd ar y pryd. Erbyn hyn mae gan Ian ddau o blant a dwy wyres annwyl iawn.

Hefyd, cofiwch wylio Neil Fenn (Llawfeddyg Wrolegol Ymgynghorol) a Rachel Jones (Oncolegydd Meddygol); mae'r ddau'n egluro sut mae'r driniaeth wedi newid a gwella ers i Ian gael diagnosis yn y 1980au.

Roedd Javed o Abertawe yn 22 pan gafodd deiagnosis Canser y Ceilliau. Yn ei gyfweliad ar y Gadair Felen mae Javed yn siarad am ei lawdriniaeth cyntaf a'i brofiad o gael Cemotherapi. Cafodd Javed ail lawdriniaeth yn Llundain am fod y Canser wedi mynd i'w nodau Lymph. (Mae'n bwysig iawn cofio mai'n anaml iawn mae hyn yn digwydd a mai nifer isel iawn sydd gorfod cael y triniaeth pellach yma).

Mae gyda Javed gariad annwyl iawn, Sophie, a fu'n gefn iddo trwy ei holl driniaeth. Mae a hefyd yn son am y cefnogaeth a gafodd gan ei deulu agos, ei fam annwyl a'i ffrindiau da a mae'n dweud 'Ma teulu a ffrindiau mor bwysig i helpu chi trwy popeth'. Ma dwy ferch annwyl gyda Javed erbyn hyn - Ava ac Amber.

Mae Javed yn rhedwr Marathon, yn DJ ac yn aelod o Bwrdd Elusen Syr Gareth Edwards.

Cafodd Tobias ddeiagnosis Canser Y Ceilliau pan oedd yn 20 oed. Mae Tobi yn siarad a ni o Clwb Rygbi Aberaeron am cael y deiagnosis ar ddiwrnod penblwydd Mamgu, am ei driniaeth ac am y gofal arbennig a gafodd yn ysbyty Bronglais. Cafodd Tobi llawdriniaeth wedyn cemotherapi. Yn anffodus fe wnaeth canser Tobi lledu i'w nodau lymff a bu'n rhaid iddo gael ail lawdriniaeth. Mae'n bwysig iawn cofio mai dimond nifer isel iawn o bobl sy'n gorfod cael yr ail lawdriniaeth yma. Mae Tobi yn siarad am cefnogaeth ffrindiau da, ei bartner annwyl Haylie a'u deulu arbennig (yn enwedig mam a dad).

Mae e'n dweud bod cael Canser mor ifanc wedi rhoi perspectif cwbwl wahanol iddo ar fywyd. Diolch Tobi - ni'n meddwl bo ti'n berson arbennig iawn.

Cafodd Rachel o Dreboeth ddeiagnosis Canser yr ysgyfaint yn 23 oed. Yn ei chyfweliad ar y Gadair Felen mae'n sôn am y siwrne hir tuag at deiagnosis a'r cefnogaeth a gafodd gan ei theulu a'i ffrindiau. Mae hefyd yn sôn am y cefnogaeth a gafodd gan y cwmni odd hi'n gweithio i, ac yn dal i weithio i heddiw (ICON).

'Mae'n bwysig i adnabod eich corff a gwybod pan nad yw rhywbeth yn normal' medd Rachel. Mae Rachel a'i phartner Craig yn rieni nawr i'r annwyl Lyla a Louie. Mae hi hefyd yn aeold pwysig iawn o Fwrdd Elusen Canser Syr Gareth Edwards.