Helpwch Ni

Donate Now

Bwriad yr elusen hon yw cefnogi pobl ifanc 15–35 oed yng Nghymru sy'n mynd drwy driniaeth ganser a sy'n gweld hi'n anodd i dalu costau byw.

Bydden ni wrth ein boddau yn clywed oddi wrthoch chi os oes gennych chi unrhyw syniadau am sut gallwch chi godi arian i Elusen Canser Syr Gareth Edwards. Mae'n amhosib i ni redeg yr elusen hon heb eich cymorth chi.

Ry'n ni'n codi arian ar hyn o bryd i gefnogi pobl ifanc. Os gallwch chi helpu, bydden ni wrth ein boddau.

GWNEWCH E MEWN LOCSYS

Rhowch locsys fel Gareth Edwards arno a codwch arian yn y gwaith, mas am noswaith, yn cerdded, yn gwylio Netflix, yn chwarae Rygbi, yn cerdded i hol 'Meal Deal', yn rhedeg neu unrhywbeth arall!

O a cofiwch ddanfon llun i ni x

Dy Dudalen Codi Arian