Gareth

Gareth Edwards Photograph Gareth Edwards PhotographGareth Edwards Photograph

 

Cafodd Gareth ei eni yn 1947 mewn pentref o'r enw Gwaun-Cae-Gurwen yng Nghwm Tawe Uchaf. Glöwr oedd Glan, ei dad, ac Annie-Mary oedd enw ei fam. Roedd Gareth yn arfer rhedeg lan a lawr y tipiau glo i gadw'n heini. Chwaraeodd rygbi dros Gymru 53 gwaith yn olynol ac aeth ar dair taith gyda'r Llewod.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn 19 oed ac roedd yn gapten ar ei wlad yn 20 oed. Ymddeolodd Gareth o chwarae rygbi yn 31 oed.

Mae gan Gareth a Maureen, ei wraig hyfryd, ddau fab a phedwar o wyrion.

Yn ystod y cyfnod pan oedd yn 15–35 oed, chwaraeodd Gareth dros ei wlad, prynu ei gar cyntaf, prynu ei dŷ cyntaf, priodi a chael plant. Erbyn hyn mae Gareth yn 76 oed ac mae eisiau helpu i gefnogi pobl ifanc sy'n mynd drwy ganser pan maen nhw mor ifanc. Meddai, "Pan o'n i'n chwarae dros Gymru, ro'n ni bob amser yn chwarae fel tîm. Os oedd un person yn cael pethau’n anodd, ro'n ni i gyd yno, yn barod i fod yn gefn iddo fe. Dyna beth hoffwn i ei wneud gyda'r elusen yma. Dw i wir yn edmygu pobl ifanc sy'n mynd drwy amser mor hynod o anodd yn ystod y cyfnod allweddol a dylanwadol yma yn eu bywydau. Does dim dewis arall gyda nhw ac maen nhw’n anhygoel o gryf. Dw i eisiau iddyn nhw wybod ein bod ni'n meddwl amdanyn nhw a'n bod ni'n gefn iddyn nhw."

Gareth Edwards PhotographGareth Edwards Photograph