Polisi Diogelu Plant

POLISI DIOGELU PLANT, POBL IFANC AC OEDOLION SYDD MEWN PERYGL            Rhif Elusen: 1196148

Elusen Canser Syr Gareth Edwards: Eirlys Edwards: Arweinydd Diogelu Dynodedig 

1. Cyflwyniad 

Mae'r Polisi Diogelu hwn ar gyfer ymddiriedolwyr, gweithwyr a gwirfoddolwyr Elusen Canser Syr Gareth Edwards – mae diogelu'n gyfrifoldeb i bawb. 

Mae ein Polisi Diogelu'n paratoi'r llwyfan ynghylch pam mae diogelu'n bwysig a sut byddwn ni'n ymddwyn ac yn gwneud penderfyniadau o ran ein gwaith i gyd er mwyn hyrwyddo diogelwch a lles plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl ac i'w hamddiffyn rhag niwed. 
Weithiau bydd diogelu'n ymwneud â sefyllfaoedd cymhleth a sgyrsiau anodd o fewn yr elusen ac yn ein cysylltiadau â chyrff allanol; byddwn yn modelu diwylliant diogelu o natur agored ac o ddysgu a fydd yn ein helpu i reoli risgiau ac i greu lle diogel i bawb. 

O bryd i'w gilydd, bydd pryderon am gam-drin, esgeuluso neu ecsbloetio. Mae'r Polisi Diogelu'n esbonio beth rydyn ni'n disgwyl ichi ei wneud a sut byddwch chi'n cael eich cefnogi os ydych chi'n pryderu bod plentyn, person ifanc neu oedolyn mewn perygl neu wedi cael ei gam-drin. Nid ein cyfrifoldeb ni yn Elusen Canser Syr Gareth Edwards yw ymchwilio i bryderon neu honiadau ond mae cyfrifoldeb arnon ni i gyd am gymryd camau amserol i ddiogelu plant a phobl ifanc. 

2. Cyfreithiau a chanllawiau 

Mae'r ddogfen hon yn gyson â'r fframwaith cyfreithiol sydd yn Neddf Plant 1989 a'r ddeddfwriaeth ganlynol a phob canllaw cysylltiedig, yn enwedig Gweithio gyda'n Gilydd i Ddiogelu Plant 2018. Mae'r darnau allweddol o ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag oedolion mewn perygl yn cynnwys Deddf Gofal 2014 a Deddf Galluedd Meddyliol 2015. 

Mae’r canllawiau statudol yn esbonio beth sydd i'w ddisgwyl ym mhob gwlad i sicrhau llesiant a diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl. 

3. Gweithredu'r Polisi Diogelu 

Bydd Elusen Canser Syr Gareth Edwards yn lle diogel dim ond os yw pawb yn deall beth mae angen iddyn nhw ei wneud er mwyn gweithredu'r Polisi Diogelwch yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Mae hyn yn berthnasol i bawb, ond arweinwyr a rheolwyr sy'n gyfrifol am sicrhau bod gweithwyr a gwirfoddolwyr yn deall beth sydd i'w ddisgwyl ganddyn nhw mewn diwylliant lle rydyn ni'n rhoi lleisiau, diogelwch a llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl yn greiddiol i'n gwaith. 

4. Diffiniadau 

‘Plentyn’ neu ‘berson ifanc’: unrhyw un hyd at 18 oed. 
‘Oedolyn mewn perygl’: unrhyw un dros 18 oed sydd ag anghenion gofal a chymorth, sy'n profi cam-drin neu esgeuluso, neu sy'n mewn perygl o hynny ac o ganlyniad i'w anghenion gofal – sy'n methu ei amddiffyn ei hun. 

5. Cyfrifoldebau diogelu 

Mae diogelu fwyaf effeithiol pan fydd pobl yn rhannu cyfrifoldeb ac yn cydweithio a hynny gyda chwilfrydedd yn hytrach na thybio bod ‘rhywun arall’ yn gwybod neu'n gwneud y peth iawn. Mae'n gyfrifoldeb ar bawb i weithredu bob amser er budd pennaf plant, pobl ifanc ac oedolion ac i gymryd camau priodol i sicrhau eu bod nhw'n cael eu hamddiffyn rhag niwed neu gam-drin. 

Pob ymddiriedolwr, gweithiwr a gwirfoddolwr 

Ystyr diogelu yw popeth rydyn ni'n ei wneud i hyrwyddo diogelwch a llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion ac i'w hamddiffyn rhag niwed. Mae disgwyl i bawb ymddwyn yn gydweithredol, yn dryloyw ac yn onest er mwyn diogelu plant a phobl ifanc. 

Mae pawb sydd â chysylltiad â phlant a phobl ifanc yn gyfrifol am eu gweithredoedd a'u hymddygiad a dylen nhw osgoi unrhyw sefyllfa neu ymddygiad a fyddai'n gwneud i berson rhesymol amau eu cymhelliant a'u bwriad. Mae'n rhaid i bawb fod yn ymwybodol o'r polisi diogelu a sut i roi gwybod am bryder diogelu. 

Mae'n rhaid i reolwyr sicrhau bod gweithwyr a gwirfoddolwyr yn dilyn y polisi hwn a'i weithdrefnau cysylltiedig a'u bod yn cwblhau hyfforddiant sy'n gyson â'u rôl a'u lefel o gysylltiad â phlant, pobl ifanc ac oedolion. 

Enwogion a rhoddwyr / cefnogwyr 

Ers Ymchwiliad Savile (2015), mae elusennau wedi bod yn effro i unigolion rheibus a all gymryd mantais o elusennau i gam-drin plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl. Prin yw'r enghreifftiau o gam-drin ond mae'n angenrheidiol bod yn ymwybodol ac yn effro am ddiogelu yn yr agwedd hon ar ein gwaith gan gynnwys ein gwaith gydag enwogion, rhoddwyr a chefnogwyr. 


Cyfrifoldebau diogelu penodol 

Ymddiriedolwyr 
Mae gan ymddiriedolwyr gyfrifoldebau cyfreithiol dros ddiogelu ac mae'n rhaid iddyn nhw roi gwybod am ddigwyddiadau diogelu difrifol (pryderon diogelu am fuddiolwyr yr elusen) i'r Comisiwn Elusennau. Mae hyn yn cynnwys achosion o dor polisi neu weithdrefn sydd wedi rhoi buddiolwyr mewn perygl. 
Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr Elusen Canser Syr Gareth Edwards yn gyfrifol am sicrhau bod Elusen Canser Syr Gareth Edwards yn amddiffyn ac yn hyrwyddo lles y plant, y bobl ifanc a'r oedolion sy'n defnyddio’r gwasanaethau, yn derbyn y gwasanaethau neu'n gwirfoddoli. Bydd staff a gwirfoddolwyr Elusen Canser Syr Gareth Edwards yn cyflawni eu cyfrifoldebau statudol dros ddiogelu. 

Y Prif Swyddog Gweithredol a'r Tîm Gweithredol 
Y Prif Swyddog Gweithredol a'r Tîm Gweithredol sy'n gyfrifol am sicrhau bod y Polisi Diogelu a'r gweithdrefnau cysylltiedig yn cael eu gweithredu drwy'r elusen drwyddi draw. 


Arweinydd Diogelu Dynodedig 
Yr Arweinydd Diogelu Dynodedig sy'n gyfrifol am ddatblygu a gwella'r polisi, y gweithdrefnau a’r arferion diogelu ar draws yr elusen. Mae'r Arweinydd Diogelu Dynodedig yn sicrhau bod trefniadau effeithiol yn cael eu cynnal ar gyfer hyfforddiant diogelu, rhoi gwybod am bryderon diogelu, sicrhau ansawdd a gwelliant parhaus. 
Yr Arweinydd Diogelu Dynodedig sy'n gyfrifol am gau pen y mwdwl ar bob pryder diogelu o unrhyw gyfarwyddiaeth. 

6. Beth yw pryder diogelu? 
Yn anaml y bydd llawer o weithwyr a gwirfoddolwyr Elusen Canser Syr Gareth Edwards yn dod ar draws pryder diogelu yn eu gwaith (os o gwbl). Yr her i'r elusen yw sicrhau bod gan bawb ddigon o wybodaeth i adnabod pryder posibl a'r hyder i rannu pryder â'u rheolwr.

7. Beth i'w wneud os oes gennych bryder (Gweithdrefn Diogelu Elusen Canser Syr Gareth Edwards) 
Cofiwch y gall pryder diogelu godi o rywbeth sydd wedi'i ddweud wrthoch chi'n uniongyrchol, o rywbeth rydych chi wedi bod yn dyst iddo, o wybodaeth o ffynonellau eraill neu ddim ond o reddf neu deimlad efallai nad yw rhywbeth yn iawn. Peidiwch byth â chadw pryder heb ei rannu â rhywun arall. 
Ddylai neb yn Elusen Canser Syr Gareth Edwards wneud penderfyniadau ynghylch beth i'w wneud gyda phryder diogelu ar ei ben ei hun. Ymgynghorwch â'r arweinydd diogelu bob amser.

8. Honiadau neu bryderon am ymddiriedolwr, gweithiwr, gwirfoddolwr, darparwr gwasanaeth wedi'i gontractio, person enwog neu roddwr / cefnogwr 
Peidiwch byth â chadw pryder am rywun sy'n gysylltiedig ag Elusen Canser Syr Gareth Edwards heb ei rannu â rhywun arall – lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed sy'n dod gyntaf, bob amser. Efallai eich bod chi'n pryderu am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu wedi'i glywed neu efallai mai dim ond eich greddf yw bod rhywbeth o'i le. 
Peidiwch byth â cheisio asesu neu ymdrin â honiadau neu amheuon eich hun, rhowch wybod am unrhyw bryder yn syth i reolwr llinell ar lefel Cyfarwyddwr Cysylltiol neu siaradwch â'r Arweinydd Diogelu os yw'n well gennych chi. Os yw eich pryder am eich rheolwr llinell eich hun, rhowch wybod am eich pryderon i reolwr arall ar lefel Cyfarwyddwr Cysylltiol neu uwch neu siaradwch â'r Arweinydd Diogelu. 

9. Chwythu'r chwiban 

Cyfraith yw chwythu'r chwiban sy'n annog pobl i godi llais os ydyn nhw'n credu bod camymddwyn neu gamwedd mewn sefydliad. Mae'r chwythwr chwiban yn cael ei amddiffyn os yw'r mater y mae'n ei godi er budd y cyhoedd. Mae'r amddiffyniad hwn yn berthnasol mewn sefyllfaoedd lle mae'r chwythwr chwiban yn gwneud datgeliad cyfreithlon neu'n ‘chwythu'r chwiban’ am niwed neu’r risg o niwed i blant neu bobl ifanc.


10. Diogelu Digidol 

Mae diogelu'n cwmpasu popeth rydyn ni'n ei wneud i hyrwyddo diogelwch a lles plant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl gan gynnwys ein holl weithgareddau a gwasanaethau digidol. Wrth i weithgareddau a gwasanaethau digidol / ar-lein ddatblygu, daw yn eu sgil heriau a chyfrifoldeb dros ddiogelu digidol – camau rhagweithiol ac ystyriol i ddiogelu plant a phobl ifanc rhag y risgiau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau digidol. Mae hyn yn golygu cydbwyso risgiau â'r rheidrwydd i ddatblygu gwasanaethau digidol y mae ar blant a phobl ifanc eu heisiau a'u hangen.